|
Ymgynghoriaeth
rheolaeth â’i wreiddiau yng Nghymru yw CODA
Business Management Cyf, ac iddo dros 1,000 o
gleientiaid busnes ledled Cymru. Bydd CODA yn
cynorthwyo busnesau yn y rhan fwyaf o’r sectorau
diwydiannol, ac mae’n ehangu ystod y
gweithgareddau mae’n eu cynnig yn y sector
ffermio.
O ganlyniad i
brisiau nwyddau is ochr yn ochr â lefelau costau
cynyddol (yn sgîl Polisi Amaethyddol Cyffredin
sy’n newid byth a hefyd), mae’n bosibl y bydd
gofyn i strwythurau busnes ffermio newid i
sicrhau bod ffermydd yn parhau i fod yn hyfyw.
I gyflawni hyn, mae’n hanfodol ein bod yn
canolbwyntio ar hyfywedd busnesau unigol er mwyn
cyflawni a chynnal lefelau proffidioldeb
derbyniol yn y dyfodol.
O’r herwydd, mae
CODA wedi lansio gwasanaeth cynllunio
amaethyddol newydd yn ddiweddar sy’n cynnwys:
-
asesu a thargedu mentrau
-
dadansoddi gweithgareddau
arallgyfeirio a busnes y fferm gyfan
-
gweithredu a monitro
strategaethau
Ynghyd â’r pethau
o ddydd i ddydd y mae galw eu gwneud wrth
ffermio, mae cynhyrchwyr dan bwysau ariannol
cynyddol o du rheolwyr banciau a chyfrifwyr. Mae
angen iddynt hefyd sicrhau eu bod yn gwybod am y
datblygiadau deddfwriaethol cymhleth diweddaraf
yn ogystal â datblygiadau trethi, a chynllunio
i’r dyfodol er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n
cadw ar yr un cyflymder ag amodau’r farchnad.
Gall CODA
gynorthwyo cynhyrchwyr trwy:
-
Sgiliau eang eu cwmpas sy’n
ymwneud â busnesau amaethyddol, gydag
ymgynghorwyr cysylltiol ledled Cymru yn cynnig
nifer o sgiliau arbenigol.
-
Barn broffesiynol, annibynnol
a gwrthrychol ar gyflwr busnes ffermio. Gall
ymgynghorwyr CODA ddarparu asesiad o hyfywedd
parhaus menter ffermio a dwyn sylw at feysydd
y gall y ffermwr eu hystyried i wella
perfformiad.
-
Dylai cyllideb fod ar waith
bob blwyddyn ar gyfer pob busnes. Gall
ymgynghorwyr CODA gynhyrchu rhagamcaniadau
llif arian, crynodeb o gyfrifon elw a cholled
a rhagolygon mantolenni. Gallant fonitro
gweithgareddau’r busnes a darparu
gwerthusiadau parhaus o’r busnes.
Ymhlith gwasanaethau CODA mae:
Targedu a monitro da byw (eidion, defaid, moch,
dofednod, gwartheg godro); Garddwriaeth; Âr;
Ffermio Organig; Trefniadau tenantiaeth busnes
fferm /ffermio cyfran / ffermio contract ;
Cynllunio adeiladu; Rheoli gwastraff; Cynlluniau
amgylcheddol; Cyfrifeg / cynllunio ar gyfer
trethi / cynllunio ar gyfer etifeddiaeth; Lles;
Marchnata; Prosesu bwyd
I
gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau
cysylltwch â Lucy Roberts ar
01633 811845 neu e-bost
lucy.roberts@codagroup.co.uk
|